Skip to the content

Phase 1

Mae’r cam hwn yn cynnwys chwe elfen sydd wedi cynyddu’n ddirfawr yr adegau mynediad i ddŵr y defnyddwyr cychod, ac yn ychwanegol, mae’n galluogi’r harbwr i ymestyn ei weithrediadau cychod o 200 i 300 a mwy o gychod gyda bwriad dros amser i ymestyn y cyfnod gweithredu tymhorol a’r atyniadau ymwelwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:-

1. Pontŵn Ymwelwyr Harbwr Allanol:-

Mae yna alw cynyddol am angorfeydd ymwelwyr ar gyfer cychod sy’n croesi Môr Hafren, o gyfeiriadau deheuol Cernyw/Dyfnaint, ac Iwerddon. O’r herwydd, bwriad Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot yw sefydlu cyfleuster angori pontŵn sy’n arnofio gwaeth beth yw cyflwr y llanw, sy’n cynnig cyfleuster sylweddol ar gyfer deiliaid angorfeydd presennol, ac i alluogi cychod sydd ar ymweliad i angori wrth ymyl.

Mae cyfleuster o’r fath, am y tro cyntaf, wedi galluogi perchnogion cychod lleol ac ymwelwyr i fwynhau’r cyfleuster angori llanw diweddaraf posib oddi fewn i Fae Caerfyrddin, lle nad oes dim ond llond llaw o gyfleusterau o’r fath oddi fewn i Gymru

2. Pendilio Ymwelwyr Harbwr Allanol / Angorfeydd Llanw Hwyr:-

Gosododd yr harbwr ddeg o angorfeydd pendilio i ymwelwyr yn 2015 a chynyddwyd y rhain yn 2016 i 15 ac yn 2017 i 20, am fod y galw wedi cynyddu. Gellir eu cadw rhag blaen am gyfnod hyd at bythefnos er mwyn i deuluoedd sydd ar wyliau sicrhau fod eu cwch yn barhaol ar ddŵr gydol eu harhosiad.

Mae’r cyfleuster wedi creu agwedd fwy hamddenol ymhlith cychod sydd ar ymweliad am nad ydyn nhw’n gorfod poeni am gyflwr y llanw, ac yn caniatáu iddyn nhw archwilio safleoedd ar y tir yn Sir Benfro yn y bore, pe bai’r rhagolygon tywydd yn proffwydo gwelliant yn ystod y prynhawn.

3. Llithrfa Harbwr Allanol:-

Wedi’i lleoli ar hen safle J&T ar ben dwyreiniol yr harbwr, dyma’r unig gyfleuster o’i fath ar gyfer Bae Caerfyrddin, sy’n rhoi mynediad di-dor i’r llinell ddŵr, ac felly, yn cynyddu’r mynediad dŵr o’r ddwy awr bresennol naill ochr i’r llanw gan ddyblu’r cyfle i bedair awr sy’n golygu mai dim ond am ychydig oriau bob dydd y mae mynediad dŵr wedi’i gyfyngu.

Mae’r cyfleuster wedi galluogi defnyddwyr harbwr a chychod ymwelwyr i gynllunio eu gwyliau o amgylch anghenion teulu ac nid dim ond pan mae’r llanw ar gael. O’r herwydd gellir marchnata Saundersfoot fel lleoliad llawer mwy deniadol i aros.

4.  Racio Cychod Sych:-

Mantais y cynllun hwn yw bod y cwch dim ond yn y dŵr pan fod angen hynny gan alluogi’r harbwr i gynyddu argaeledd i o leiaf 80 o ddefnyddwyr cychod ychwanegol gyda’r fantais ychwanegol o’r perchennog yn lleihau’r angen i ddefnyddio paent gwrth-ddifwyno a tipyn llai o draul.

Gellir lansio cychod a’u tynnu i mewn gan dîm yr harbwr gan leihau’r cymhlethdodau o fod yn berchennog cwch a chreu profiad llawer mwy pleserus i’r teulu cyfan.

Mae cyfleuster o’r fath, am y tro cyntaf, wedi galluogi defnyddwyr harbwr ac ymwelwyr gwyliau i Sir Benfro gael mynediad i Fae Caerfyrddin trwy gynllun storio sy’n cynnal ansawdd eu cwch.

5. Pontŵn Glanio Harbwr Mewnol:-

Mae’r harbwr wedi gosod esgynfa fynediad i’r adeiledd pontŵn sy’n cynnig mynediad diogel gan alluogi’r person llai mudol i fynd ar gychod pleser a’r cychod teithiau ardderchog sy’n gweithredu o’r harbwr.

6. Llwyfan yr Harbwr

Trwy osod llwyfan dros yr hen lifddor heb amharu ar ei weithrediad, mae’r harbwr wedi creu  llecyn agored cymunedol gwerthfawr, lle gellir cynnal gweithgareddau awyr agored ymhob tywydd, gan ddarparu lleoliad i gefnogi’r rhaglen o achlysuron allan o dymor ardderchog cyfredol a drefnir gan Siambr Dwristiaeth Saundersfoot.

Mae hwn yn lleoliad delfrydol i ddod iddo i eistedd ac ymlacio neu i fwynhau picnic gyda’r teulu ynghyd â rhaglen o achlysuron sy’n cael eu datblygu i greu profiadau atmosfferig o ran cerddoriaeth/diwylliant/bwyd a’r celfyddydau.

Saundersfoot Harbour Phase 2 Completed Development Work

Harbour Developments

Phase 1 Development at Saundersfoot Harbour

Phase 1
Development

Public Consultation Results

Public Consultation Results

Phase 2 Development

Phase 2
Development

Ocean Square Planning Application

Ocean Square
Planning Application

Gennych chi gwestiwn?

Bydd ein tîm cyfeillgar yn Harbwr Saundersfoot yn cysylltu â chi gynted â phosib i ddelio ag unrhyw ymholiadau o'ch eiddo am y datblygiad newydd neu gyfleusterau'r harbwr.