Skip to the content

Rhybuddion i Forwyr

Gwybodaeth pwysig a rhybuddion i bob morwr sy’n defnyddio’r harbwr . . .  gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd! Mae ein tîm rheoli’r harbwr bob amser wrth law i gynghori;  ffoniwch  01834 812 094

Tonfeddi Radio VHF

Harbwr Feistr Saundersfoot  - Tonfedd VHF 11/8/16

Harbwr Saundersfoot  - Tonfedd VHF  11/8

Canllaw pwysig
wedi’i gyhoeddi
gan  Reolwyr yr Harbwr. . .

Mae’r wybodaeth yma’n hysbysu pob deilydd angorfa, cychod sy’n ymweld, defnyddwyr llithrfa a gweithredwyr masnachol  o’r peryglon posib neu weithgarwch a allai amharu ar symudiadau cychod neu effeithio ar ddiogelwch yn nyfroedd yr harbwr a’r ardal union oddi amgylch.

Dangosir y rhybuddion hyn ar Fwrdd Hysbysebu Swyddfa’r Harbwr.

Rhybudd i Ddefnyddwyr Harbwr ynghylch Marcwyr Mordwyo Newydd   

cliciwch fan hyn

Rhybudd i Ddefnyddwyr Harbwr ynghylch Marcwyr Sianeli  

pcliciwch fan hyn

Mordwyo mewn gwelededd wedi’i gyfyngu

Wrth fordwyo mewn gwelededd wedi’i gyfyngu, cofiwch:

Byddwch yn wyliadwrus trwy edrych, gwrando a phob dull arall posib.

Cadw i wrando’n barhaus ar Donfedd Waith 11 yr Harbwr.

Mae’n bosib na welir badau bychain gan radar oherwydd eu gwneuthuriad, maint a’r amgylchiadau tywydd ar y pryd. Yn ychwanegol ni welir badau bychain pan fyddan nhw gerllaw llongau masnachol oherwydd uchder sganer radar y llong.

Diogelwch

Mae Harbwr Saundersfoot yn gweithio’n agos gyda mudiadau morol fel:

  • Achubwyr Traeth RNLI  
  • Asiantaeth Arforol a Gwylwyr y Glannau (MCA)

Mae Saundersfoot yn nodedig am ei ddyfroedd ymdrochi diogel a gwneir pob ymdrech i hwyluso yr holl weithgareddau chwaraeon dŵr amrywiol eraill mewn modd diogel a chytun.

Gwregysau Achub

Gosodir gwregysau achub mewn lleoliadau amrywiol o amgylch yr harbwr; cysylltwch â swyddfa’r harbwr pe gwelwch unedau tai wedi’u difrodi neu heb wregys diogelwch.

Adrodd am Ddifrod neu Ddigwyddiadau

Dylai digwyddiadau yn ymwneud â difrod neu anaf yn yr harbwr gael eu hysbysu yn  Swyddfa’r Harbwr gynted â phosib. Mae’n bosib y gofynnir i chi gwblhau ffurflen damwain. Mae Ffurflenni Adrodd Damwain ar gael yn Swyddfa’r Harbwr.

Cysylltiadau Defnyddiol

Byddwch yn ddiogel...

Latest Information for Mariners

Gennych chi gwestiwn?

Bydd ein tîm cyfeillgar yn Harbwr Saundersfoot yn cysylltu â chi gynted â phosib i ddelio ag unrhyw ymholiadau o'ch eiddo am y datblygiad newydd neu gyfleusterau'r harbwr.